Fy haeddiant mawr yn nghanol ne'

Fy haeddiant mawr yn nghanol ne',
Yw Iesu'n feichiau yn fy lle;
  A'i boenau Ef yn unig sydd
  Yn gwneyd yr orsedd wen yn rhydd.

Ni fedd angylion,
    er eu bri,
Na neb o'r holl seraphiaid fry,
  Na holl alluoedd maith y nef,
  Un haeddiant fel ei haeddiant Ef.

Os daw y gyfraith yn ei grym,
A gofyn am berffeithrwydd im',
  Gwnaf iddi dangos angeu loes,
  A gwaed yn llifo ar y groes.

Fe etyb ei gyfiawnder Ef,
Berffaithrwydd cyfraith Brenin nef,
  Fe dâl ei wad
      ar groesbren îr
  Bob gofyn i santeiddrwydd pur.

Tystiodd fy Nuw o ganol nef,
"Ce's lawn foddlondeb ynddo Ef;"
  A bod ei saint
      o fawr i fân,
  Yn haeddiant Iesu oll yn lân.
William Williams 1717-91

[Mesur: MH 8888]

gwelir:
  Mae rhyw ddirgelwch llawer mwy
  Mae'r graig mae f'enaid arni'n byw
  Ni fedd anglion er eu bri
  O Arglwydd cofia'th angeu drud
  Troseddodd Adda pen pob dyn
  Wrth edrych Iesu ar dy groes

My great claim in the centre of heaven,
Is Jesus standing surety in my place;
  And His pains alone are
  Making the white throne available.

The angels do not posses,
    despite their honour,
Nor any of all the seraphim above,
  No all the vast powers of heaven,
  One virtue like His virtue.

If the law should come in its force,
And demand perfection of me,
  I will show it the pangs of death,
  And the blood flowing on the cross.

His righteousness will answer
The perfection of the King of heaven's law,
  It will hold its denial
      on the fresh wood cross
  Of every question to pure holiness.

My God testified from the centre of heaven,
"I got full satisfaction in Him;"
  And that his saints
      from great to small are,
  In the merit of Jesus all holy.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~